Close

Croeso i Ysgol T Llew Jones

Croeso i wefan Ysgol Gynradd Gymunedol T Llew Jones. Ein bwriad wrth gyflwyno’r wefan yma yw rhannu gwybodaeth a chyflwyno ein nod ac amcanion fel ysgol. Ceir gwybodaeth am nifer o bethau sydd am gynorthwyo’r ysgol i redeg yn effeithiol a chynorthwyo’ch plant i ymgartrefu a mwynhau eu cyfnod gyda ni.

Mae addysg yn bartneriaeth tair ffordd gyda’ch plentyn y chi fel rhieni a ninnau fel ysgol. Mae eich rhan yn eithriadol o bwysig os yw eich plentyn am fanteisio yn llawn ar yr holl brofiadau a gyflwynir yn yr ysgol. Ni ellir pwysleisio pa mor bwysig yw eich cefnogaeth chi yn y cartref os yw eich plentyn am gael yr addysg orau.

Cofiwch fod croeso i chi gysylltu â’r ysgol unrhyw amser os oes gennych unrhyw gwestiwn am ddatblygiad eich plentyn.

Yn ddiffuant,

Rhian Lloyd

Pennaeth

Llwybr llwyddiant, lles a llawenydd.

“Ni biau yfory.”

Ein hysgol

Lleolir ein hysgol ym mhentref gwledig Brynhoffnant, Sir Geredigion, a gwasanaetha’r pentref ac ardaloedd Rhydlewis, Glynarthen Pontgarreg, Blaenporth a Penmorfa. Derbynia’r ysgol ddisgyblion yn rhan amser i’r dosbarth meithrin yn dilyn eu penblwydd yn dair oed ac yn llawn amser i’r dosbarth derbyn yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.
Dynodir yr ysgol yn ‘Ysgol cyfrwng Cymraeg’ yn ôl polisi iaith yr awdurdod addysg; golyga hyn mai’r Gymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol ond anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo i’r sector uwchradd.

Dyddiadur

Diogelwch ar y wê

Prosbectws

Llythyron

Bwydlen yr wythnos